Ysgol Werdd
Beth Yw Eco-Sgolion?
Menter ryngwladol yw'r rhaglen Eco-Sgolion sy'n annog disgyblion i gymryd rhan mewn materion amgylcheddol a datblygu cynaliadwy. Mae'n cynnig system hynod strwythurol ar gyfer rheolaeth amgylcheddol o ysgolion.
Mae'r rhaglen yn adnodd dysgu ac mae'r meysydd pwnc yn cynnwys Ysbwriel, Lleihau Gwastraff, Cludiant, Byw'n Iach, Ynni, Dŵr, Tir yr Ysgol a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Disgyblion sy'n cymryd y prif rannau mewn cymryd penderfyniadau a chyfranogi er mwyn lleihau effaith amgylcheddol eu hysgol. Fel hyn, mae Eco-Sgolion yn ymestyn y tu hwnt i'r dosbarth ac yn datblygu agweddau o ddinasyddiaeth gyfrifol, gartref ac yn y gymuned ehangach.
Mae Baner Werdd Ryngwladol Eco-Sgolion, a roddir i ysgolion sydd wedi llwyddo'n dda gyda'u rhaglen, yn eco-label cydnabyddedig sy'n cael ei barchu am berfformio mewn Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy. Gweithgaredd tymor hir yw'r rhaglen Eco-Sgolion gyda'r wobr yn cael ei hail asesu a'u hadnewyddu bob dwy flynedd.
Ceir Eco-Sgolion drwy'r 22 o Awdurdodau Lleol Cymru ac mae'n cynnwys amrywiaeth eang o ysgolion Babanod, Cynradd, Uwchradd ac Anghenion Arbennig. Ar hyn o bryd mae 1600 o Eco-Sgolion wedi'u cofrestru yng Nghymru gyda 520 wedi llwyddo i ennill statws y Faner Werdd.
Mae'r cyfan o'r defnyddiau ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac yn rhad ac am ddim i ysgolion sydd wedi cofrestru.
Mae'r cynllun yn dal i dyfu'n gyflym ac mae wedi derbyn cefnogaeth gan bron bob un o Awdurdodau Lleol Cymru yn ogystal ag ACCAC, ESTYN a nifer o sefydliadau amgylcheddol.
Cyllidir y Rhaglen Eco-Sgolion gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Ymwybyddiaeth Gwastraff Cymru.
O ble daeth y rhaglen?
Yng Nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar yr Amgylchedd a Datblygu (Uwch Gynhadledd Rio) ym 1992 y sylweddolwyd fod angen rhoi rhan i bobl ifanc mewn canfod atebion i heriau amgylcheddol a datblygu cynaliadwy yn lleol. O ganlyniad datblygwyd y rhaglen Eco-Sgolion ym 1994 gan y Sefydliad dros Addysg Amgylcheddol (FEE) ac fe'i cyflwynwyd i'r DU ym 1995.
Rheolir y rhaglen yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus.