Teithiau Iach
Mae Ysgol Llanfairpwll yn cymryd rhan ym Mhrosiect Teithiau Iach Sustrans sef menter genedlaethol gyffrous sy’n gweithio i gynyddu’r nifer o blant a phobl ifanc sy’n teithio’n llesol i’r ysgol.
Debbie Humphreys yw ein Swyddog Sustrans ac mae hi’n gweithio’n agos gyda’r ysgol, y plant a’r rhieni er mwyn cynyddu’r cyfleoedd i feicio, cerdded a sgwtera i’r ysgol.