GAIR O GROESO GAN Y PENNAETH

Mae’n bleser gennyf gael eich croesawu i wefan Ysgol Llanfairpwll.

Mae awyrgylch hapus a gweithgar yn yr ysgol lle mae pawb yn cael eu trin fel unigolion ac yn cael eu hadnabod a’u gwerthfawrogi gan bawb arall yn yr ysgol.

Mae amgylchfyd dymunol yr ysgol yn cynnig cyfleoedd lawer ar gyfer astudiaethau awyr agored sydd yn sicr o gyfoethogi profiadau cwricwlaidd y plant. Mae gwarchodfa natur ym mhen pellaf y cae ynghyd â deg gwely ar gyfer plannu. Yn 2014 datblygodd yr ysgol ardal chwarae antur, llong chwarae ac ardal darllen story. Mae rhain oll yn cyfrannu tuag at ddatblygiad addysgiadol y plant. Heb amheuaeth mae’r ffaith fod adeilad y Llanfairpwll Play and Learn Association wedi ei leoli yn yr ysgol wedi profi yn llwyddiant mawr gan sicrhau cysylltiadau agosach rhwng yr ysgol a’r plant oed cyn-ysgol a’r gymuned leol.

Dengys y llywodraethwyr a’r rhieni ymroddiad gwerthfawr tuag at yr ysgol yn nhermau eu cefnogaeth i’n polisiau a’u cymorth wrth godi arian.

Yn Ysgol Llanfairpwll rydym yn darparu amgylchfyd diogel, hapus a threfnus lle mae plant yn datblygu parch at eraill, agweddau cyfrifol, hunan ddisgyblaeth, arferion gwaith da, parch at eu hamgylchfyd a balchder yn eu gwaith a’u llwyddiannau.

Gofynnwn i chwi fel rhieni gefnogi’r ysgol er mwyn datblygu’r agweddau gan sicrhau bod eich plant yn cyrraedd yr ysgol ar amser, yn ymddwyn yn briodol bob amser, yn cael ei annog i barchu eiddo pobl eraill ac eiddo’r ysgol, yr ysgol yn cael gwybodaeth ysgrifenedig/ffôn os yw eich plentyn yn absennol neu’n hwyr.

Mae’n bwysig eich bod yn dangos diddordeb cyson yn yr hyn mae eich plentyn yn wneud yn yr ysgol. Bydd cyfle i chwi ddod i’r ysgol i drafod datblygiad eich plentyn. Ein nod yw creu cymuned ofalgar a phwrpasol y gallwn oll fod yn falch ohoni.

Yr wyf yn barod bob amser i dywys darpar rieni a’u plant o amgylch yr ysgol. Ffoniwch neu galwch i mewn i drefnu ymweliad er mwyn cyfarfod y staff ac ymweld â’r dosbarthiadau. Edrychwn ymlaen i’ch cyfarfod.

Gwyn Pleming (Prifathro)

HANES YR YSGOL

Yr ysgol ddyddiol gyntaf yn yr ardal hon oedd Ysgol Duges Kent. Fe godwyd yr ysgol eglwys hon ar lecyn ger Tyddyn Pwyth, rhyw hanner milltir y tu allan i’r pentref. Fel mae enw’r yn awgrymu, Duges Kent - mam y Frenhines Fictoria, a gyfrannodd y £30 a oedd ei angen er mwyn sefydlu’r lle. Codwyd yr ysgol gyda’r bwriad o ddarparu addysg ar gyfer plant o blwyfi Llanfair Pwllgwyngyll, Llanedwen, Llanidan a Llanddaniel. Caewyd hi yn 1872. Ychydig o blant y fro mewn gwirionedd gafodd gyfle i fynychu Ysgol Duges Kent.

Yn dilyn Deddf Addysg Forster yn 1870, fe benderfynodd y llywodraeth fod angen codi mwy o ysgolion er mwyn addysgu pob plentyn yn y wlad. Ond, fe achosodd hyn ffrae fawr yn Llanfair. Doedd Eglwyswyr a Chapelwyr y plwyf ddim yn gallu cytuno ar sut y dylid symud ymlaen, ac felly, fe adeiladwyd dwy ysgol newydd sbon.

Ar 4 Rhagfyr 1871, fe agorwyd Ysgol Genedlaethol Llanfair, neu’r Ysgol Fyny, fel ei gelwid hi’n lleol. Ysgol ar gyfer plant yr Eglwyswyr oedd hon. Yna, fis yn ddiweddarach, ar 2 Ionawr 1872, fe agorwyd yr Ysgol Fwrdd. Ysgol ar gyfer plant y Capelwyr oedd hon. Am flynyddoedd hon oedd yr Ysgol Lawr. Yn 1911, fe gaewyd yr hen ysgol hon, ac fe symudwyd i lecyn newydd, ble mae’r ysgol bresennol.

Erbyn y 1950au cynnar, roedd niferoedd y plant wedi gostwng yn arw yn y ddwy ysgol, ac felly, fe benderfynnodd y Cyngor Sir, fod un ysgol yn hen ddigon i anghenion pentref Llanfair. Ar ddiwedd 1953, fe ddaeth yr Ysgol Fyny i ddiwedd ei hoes, ac yn Ionawr 1954, am y tro cyntaf, fe addysgwyd holl blant y pentref o dan yr un tô.