Mae Ysgol Llanfairpwll yn ymfalchio mewn darparu awyrgylch dysgu hapus a chyffrous, ac fe gefnogir ein disgyblion gan athrawon ymroddedig. Mawr obeithiwn y byddwch yn gweld ein gwefan yn llawn o wybodaeth ddefnyddiol.
Newyddion
Taith Blwyddyn 6 i Gaerdydd
Yn ddiweddar, bu disgyblion Blwyddyn 6 yn ymweld â’n prifddinas. Roedd yn dri diwrnod llawn gweithgareddau diddorol, yn cynnwys ymweld â Stadiwm y Mileniwm ac Amgueddfa 1940au yn Abertawe. Hefyd, cawsant flas ar sut beth yw bod yn wleidydd, gan drafod pynciau llosg yn y Cynulliad. - cliciwch yma i weld y lluniau
Ymweliad Blwyddyn 5 a Gwersyll yr Urdd Glan-llyn
Bu disgyblion Blwyddyn 5 yn gwlychu eu traed yn Llyn Tegid wrth iddynt ymweld â Gwersyll yr Urdd Glan-llyn. Cafodd pawb amser arbennig a chyffrous, yn dringo rhaffau, canwio ar y llyn a dawnsio disgo. - cliciwch yma i weld y lluniau
A YW EICH TEULU CHI’N GWARCHOD EIN PLANED?
Cystadleuaeth Fawr Newid Hinsawdd i deuluoedd Ysgol Llanfairpwll yn unig - GWOBRAU HAEL AR GAEL - cliciwch yma am fanylion